Hwyliaith
Gwneud y Gymraeg yn Hwyl
Prynwch Adnoddau Gwneud a Dweud
Bwriad Cynllun Gwneud a Dweud yw cynnig adnodd cyffrous i gynulleidfa newydd er mwyn cryfhau’r defnydd o’r Gymraeg.
Cymraeg Bob Dydd
Cyfle i bobl godi eu hyder yn y Gymraeg drwy dreulio wythnos yng Nghanolbarth Cymru yn siarad Cymraeg bob dydd.

Dull Hwyliaith
Mae Hwyliaith yn ffordd hwyliog o ddysgu siarad Cymraeg. Bydd yr ymennydd yn ymateb i animeiddio iaith – yn yr isymwybod, heb unrhyw ramadeg na straen.
Pam dewis Hwyliaith?
Mae Hwyliaith yn ffordd hwyliog o ddysgu neu atgyfnerthu Cymraeg llafar. Teitl y cynllun yw Gwneud a Dweud.
Nia Llywelyn
Sefydlwyd Hwyliaith gan Nia Llywelyn, athrawes ysgol gynradd brofiadol, asesydd gofal plant, a thiwtor Cymraeg.
Emyr Llywelyn
Cydweithiodd Nia gyda’i thad, Emyr Llywelyn, i greu Storïau Sam y Ci, gyda chymorth cwrs byr i deuluoedd – sef y dull Gwneud a Dweud gwreiddiol.
Ymunwch â’r hwyl. Siaradwch Gymraeg gyda hyder.
Mae Hwyliaith yn cynnig amrywiaeth mawr o ddeunyddiau fforddiadwy, hawdd eu cael i helpu’r Gymraeg ffynnu fel iaith fyw y tu allan i’r ystafell ddosbarth.
“I have been keen to learn Welsh for ages, especially as a mum of four children all at school age. I have picked up a basic knowledge through their school reading books and homework but have never had the time or confidence to go further.”
“I was recommended Hwyliaith’s sessions & thought I’d give them a go. The scheme uses various games and activities to get us learning. It’s amazing, includes everyone & is so encouraging. There is a lot of laughter along the way and we come away from each session being able to use the phrases/words we’ve learnt. I’ve even been confident enough to speak them whilst out & about. I’m so glad I took the plunge!”
Becky Wood, Dihewyd

