Pam dewis Hwyliaith?

Mae Hwyliaith yn ffordd hwyliog o ddysgu neu atgyfnerthu Cymraeg llafar. Teitl y cynllun yw Gwneud a Dweud gan fod dysgu iaith yn gweithio fwyaf effeithiol pan fyddwch yn defnyddio’ch corff cyfan. Mae cyfuno symud, ystumiau wyneb a chorff, llais a gweithgareddau yn helpu’ch ymennydd i brosesu gwybodaeth yn fwy effeithiol drwy nifer o synhwyrau ar yr un pryd. Mae ein arwyddair yn dweud y cyfan:

 ‘Dim dweud heb wneud, dim gwneud heb ddweud.’

No saying without doing, no doing without saying.’

‘Dyw iaith ddim yn bodoli mewn gwagle. Dyna pam mae pob uned o Hwyliaith yn rhoi’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn drwy straeon a dialogau deniadol gyda defnydd o fideos.

Fyddai’r cynllun hwn ddim yn gyflawn heb ganeuon llawn cyffro gan Ryland Teifi. Mae’r caneuon hyn wedi’u cynllunio i gyd-fynd â’n patrymau iaith ac yn llawn cwestiynau a strwythurau y brawddegau Cymraeg mwyaf defnyddiol.

Mae ailadrodd yn allweddol i gofio iaith newydd. Mae ein gweithgareddau’n annog gwrando ac ail wrando’n rheolaidd ar y deunydd, gan ddefnyddio ailadrodd i helpu’r ymennydd i storio a chofio’r Gymraeg yn naturiol dros gyfnod o amser.

Mae Hwyliaith yn rhaglen sy’n llawn gweithgareddau, gweithredu a chydweithredu!