Y Dull Hwyliaith

Am y Dull

Mae hwn yn ddull hwyliog o ddysgu Cymraeg

Yr unig beth sydd raid i chi wneud yw ymlacio a chymryd y cyfan yn ei dro.

Byddwch chi’n mynd i ddysgu Cymraeg mewn ffordd naturiol a syml.

Heb sylweddoli eich bod chi’n dysgu – trwy’r isymwybod.

 

“A fydda i’n gallu dweud y geiriau’n iawn?”

 

Os na fyddwch chi’n cael y geiriau’n iawn, bydd neb yn eich clywed. Bydd gwrando ar y tiwtor yn dweud y gair yn dangos sut y dylid ei ddweud. Bydd ailadrodd hyn dro ar ôl tro yn help mawr.

 

“A fydda i’n gallu cofio’r geiriau a’r brawddegau?”

 

Anghofiwch am drio cofio geiriau a brawddegau. Bydd eich ymennydd yn gwneud yr holl brosesu iaith i chi heb i chi wybod.

I atgyfnerthu’r dysgu byddwn yn gosod y geiriau a’r brawddegau mewn cyd destunau gwahanol i wneud pob dim yn ddiddorol a hwyliog.