Cynllun Gwneud a Dweud

Mae cynllun Gwneud a Dweud Hwyliaith yn ffordd ddifyr, effeithiol a hawdd i’w ddilyn wrth ddefnyddio’r Gymraeg ym mywyd bob dydd. Mae pob uned yn:

  • rhoi iaith mewn cyd-destun er mwyn bod yn berthnasol i fywyd go iawn
  • defnyddio ystumiau, iaith y corff, llais a symudiad i wneud dysgu’n gofiadwy
  • cyfuno caneuon byr, dialogau a fideos ar gyfer profiad o bob un o’r synhwyrau.

Fel y mae’r enw Hwyliaith yn awgrymu, mae hwyl yn sail i bopeth a wnawn gan fod mwynhau yn hanfodol i ddysgu iaith yn llwyddiannus.

Mae adnodd Hwyliaith wedi’i rannu’n 5 uned

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

Uned 1

Byddwch yn dysgu gofyn ble mae rhywun neu rywbeth, a sut i roi ateb syml.

Bydd berfau defnyddiol yn cael eu cyflwyno i chi a byddwch yn gallu dweud “os gwelwch yn dda” a “dim diolch”.

Byddwch yn dysgu ymadroddion bob dydd defnyddiol sy’n gysylltiedig â golygfa mewn caffi, a bydd deialog fer yn helpu i ddod â’ch dysgu’n fyw.

Bydd y cynnwys yn cael ei gyflwyno’n raddol gyda chymorth y fideo Do and Say yn ogystal â dwy fideo golygfa caffi.

Deunydd estynedig

Byddwch yn dysgu defnyddio’r amser gorffennol byr i adrodd beth sydd wedi digwydd.

(Mae pob uned – heblaw Unedau 2 a 5 – yn cynnwys deunydd estynedig, yn enwedig ar gyfer dysgwyr sydd eisoes â rhywfaint o brofiad o’r Gymraeg.)

Uned 2 a 3

Byddwch yn dysgu mwy o ferfau defnyddiol, a byddwch yn cael eich cyflwyno i rai arddodiaid ac yn gallu ymarfer drwy labelu pethau yn y tŷ i adeiladu ar Uned 1.

Byddwch yn dysgu ffurfiau newydd i ofyn cwestiwn ac ymadroddion bob dydd i’w defnyddio gyda phlant (er enghraifft, wrth ddarllen gyda’ch gilydd). Bydd mwy o ganeuon yn cael eu cyflwyno, a gallwch wrando arnyn nhw a’u dysgu fel teulu.

Mae’r deunydd Do and Say yn parhau i ddarparu sylfaen ar gyfer dysgu ymadroddion newydd. Mae yna fideos byr ar gyfer Uned 2 ac Uned 3. Byddwch yn dysgu ymadroddion ymarferol ar gyfer gweithgareddau bob dydd, gorchmynion sylfaenol, ac yn ymarfer pryd i ddefnyddio ‘ti’ a ‘chi’.

Deunydd estynedig

Byddwch yn dechrau dysgu dweud yr amser ac yn ymarfer deialog byr ar y ffôn.

Uned 4

Yn Uned 4, byddwn yn ymestyn eich gwybodaeth o’r amser gorffennol, ac yn dysgu sut i siarad am y pethau sy’n perthyn i chi.

Byddwch yn gallu gofyn ac ateb “Be sy’n bod?”. Bydd geirfa tywydd hefyd yn cael ei chyflwyno. Bydd mwy o ganeuon yn cael eu cynnwys i atgyfnerthu patrymau a gwneud dysgu’n bleserus.

Deunydd estynedig (Uned 4)

Byddwch yn ymarfer adrodd am ddigwyddiadau yn y gorffennol gan ddefnyddio’r amser gorffennol.

Uned 5

Byddwch yn cael eich cyflwyno i’r amser dyfodol ac yn dechrau defnyddio mwy o orchmynion. Bydd geirfa ac ymadroddion sy’n gysylltiedig â theimladau ac emosiynau yn cael eu hychwanegu. Byddwch yn mwynhau “Dere i gael cwtsh ’da fi”, cân hyfryd gan Ryland Teifi.

Mae’r caneuon yn yr uned hon nid yn unig yn atgyfnerthu’r deunydd newydd, maen nhw hefyd yn helpu i adolygu unedau cynharach. Bydd rhai agweddau ar ramadeg, yn cael eu cyflwyno gan gynnwys treigladau (er efallai y byddwch yn sylwi arnynt yn ymddangos yn gynharach hefyd!).

Mae pob Uned wedi’i disgrifio’n fanylach ond rydym ni’n eich cynghori yn gryf i edrych a gwrando ar y cynnwys yn gyntaf.

“Mae dysgu’n dod yn haws os bydd yn cael ei gyflwyno fel bod yr ymennydd yn gallu ymateb a phrosesu’r wybodaeth mewn ffordd syml ac adeiladol.”