Pwy ydym ni yn Hwyliaith?
Sefydlwyd Hwyliaith gan Nia Llywelyn, athrawes ysgol gynradd brofiadol, asesydd gofal plant, a thiwtor Cymraeg.
Wrth arwain sesiynau ‘Cymraeg i Deuluoedd’ ym Mhowys, gwelodd fwlch: prin oedd y llyfrau stori syml gyda gweithgareddau difyr a chaneuon bachog i helpu rhieni a phlant ddysgu Cymraeg gyda’i gilydd.
Cydweithiodd Nia gyda’i thad, Emyr Llywelyn, i greu Storïau Sam y Ci, gyda chymorth cwrs byr i deuluoedd – sef y dull Gwneud a Dweud gwreiddiol. Roedd y ffordd o ddysgu mor llwyddiannus am ei fod yn creu triongl addysgol rhwng y teulu, y plentyn a’r ysgol gan wneud dysgu Cymraeg yn brofiad o gyd ddysgu llawen.
Mae Hwyliaith yn cynnig amrywiaeth mawr o ddeunyddiau fforddiadwy, hawdd eu cael i helpu’r Gymraeg ffynnu fel iaith fyw y tu allan i’r ystafell ddosbarth.
